Van Gogh in Pembrokeshire

Scroll down for English version

200 mlynedd ar ôl ei hagor a chanrif ar ôl caffael ei gweithiau Van Gogh cyntaf, mae’r Oriel Genedlaethol, Llundain yn cynnal arddangosfa Van Gogh fwyaf erioed y DU a bydd yn cael ei sgrinio yma yn y Torch ddydd Iau 14 Tachwedd. Mae Van Gogh nid yn unig yn un o’r artistiaid mwyaf annwyl erioed, ond efallai’r un sy’n cael ei gamddeall fwyaf hefyd.

Mae’r ffilm hon yn gyfle i ail-edrych a deall yr artist eiconig hwn yn well. Gan ganolbwyntio ar ei broses greadigol unigryw, mae Van Gogh: Poets & Lovers yn archwilio blynyddoedd yr artist yn ne Ffrainc, lle chwyldroi ei arddull. Daeth Van Gogh yn frwd dros adrodd straeon yn ei gelf, gan droi’r byd o’i gwmpas yn ofodau bywiog, delfrydol a chymeriadau symbolaidd.

Llanwodd beirdd a charwyr ei ddychymyg; roedd popeth a wnaeth yn ne Ffrainc yn gwasanaethu’r obsesiwn newydd hwn. Yn rhannol, dyma achosodd ei chwalfa ddrwg-enwog, ond ni ddaliodd ei greadigrwydd yn ôl wrth iddo greu campwaith ar ôl campwaith. Archwiliwch un o gyfnodau mwyaf canolog hanes celf yn y sioe unwaith-mewn canrif hon.

Gweler yn agos ei ‘Starry Night over the Rhône’ (1888, Musée d’Orsay) a ‘The Yellow House’ (1888, Amgueddfa Van Gogh), yn ogystal â’n ‘Sunflowers’ (1888) a ‘Van Gogh’s Chair’ (1889), ymhlith nifer o rai eraill.

Wedi’i wneud mewn cydweithrediad agos â’r Oriel Genedlaethol, fe’i cyfarwyddir gan David Bickerstaff a’i chynhyrchu gan Phil Grabsky.

14 Tachwedd, 7pm. Tocyn £13; 01646 695267, torchtheatre.co.uk.

 

 

A century after acquiring its first Van Gogh works, the National Gallery in London is hosting the UK’s biggest Van Gogh exhibition – which will be screened at the Torch Theatre, Milford Haven, on Thursday 14 November.

This film is a chance to re-examine and better understand this great artist.

Van Gogh: Poets & Lovers explores the artist’s years in the South of France, where he revolutionised his style.

The film features up close his Starry Night over the Rhône (1888, Musée d’Orsay) and The Yellow House (1888, Van Gogh Museum), as well as Sunflowers (1888) and Van Gogh’s Chair (1889).

Made in close collaboration with the National Gallery, it is directed by David Bickerstaff and produced by Phil Grabsky.

Thursday 14 November, 7pm. Tickets: £13; 01646 695267, torchtheatre.co.uk.

 

 

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...