Real Toad Stars at Theatre

As the Torch Youth Theatre performs Wind in the Willows, it seems only fitting that a toad should make an appearance at the box office for all to admire.
The theatre says: “Borrowed from Dragon Reptiles and Aquatics in Pembroke Dock, our toad will be in full view for those attending the Torch Youth Theatre production. This fascinating amphibian won’t make a stage appearance but Toad of Toad Hall will, along with his fellow riverside and woodland friends – Badger, Ratty and Mole.
“We’re also providing a bilingual fact sheet for all explaining how to look after a toad, what he eats and where he likes to live.
“POOP POOP! We’re keeping our fingers cross that this one isn’t quite as untamed as the one on stage.
“Toads, of all kinds, are very popular, especially here in Pembrokeshire. Thousands have been seen on Skomer Island and many can be seen at Whitesands Bay making a qwark-qwark-qwark sound.”
Claire Morris, owner of Dragon Reptiles and Aquatics, said she was delighted that this toad could go on holiday to his local theatre: “I think it’s a great idea. Children will be able to relate to the main character when they see Toad in his vivarium. They are such interesting and friendly amphibians and our Toad can’t wait to travel from Pembroke Dock to the Torch for his short stay.”
Wind in the Willows will be at the Torch Theatre, Milford Haven, on Monday 22 July, Tuesday 23 July and Wednesday 24 July at 6.30pm. Tickets £10 / £8 concessions. The Youth Theatre will be joined by the Torch Voices Community Choir. To book tickets or for further information, call 01646 695267 or visit torchtheatre.co.uk.
Gwestai toadi-tastig yn y Torch! Pŵp! Pŵp!
Wrth i Theatr Ieuenctid y Torch berfformio Wind in the Willows, mae ond yn addas y dylai Llyffant ymddangos yn Swyddfa Docynnau Theatr Torch i bawb ei edmygu!
Wedi’i fenthyca gan Dragon Reptiles and Aquatics yn Noc Penfro, bydd ein Toad mewn golwg llawn ar gyfer y rhai sy’n mynd i gynhyrchiad Theatr Ieuenctid y Torch. Ni fydd yr amffibiad hynod ddiddorol hwn yn ymddangos ar y llwyfan ond bydd Toad of Toad Hall, ynghyd â’i gyd-gyfeillion ar lan yr afon a’r coetir – Badger, Ratty a Mole yn diddanu pawb o’r llwyfan.
Rydyn ni hefyd yn darparu taflen ffeithiau ddwyieithog i bawb sy’n esbonio sut i ofalu am lyffant, beth mae’n ei fwyta a ble mae’n hoffi byw.
“PŴP PŴP! Rydyn ni’n cadw ein bysedd yn groes nad yw’r Toad yma mor afreolus â’r un ar y llwyfan.”
Mae llyffantod, o bob math, yn boblogaidd iawn, yn enwedig yma yn Sir Benfro. Mae miloedd wedi’u gweld ar Ynys Sgomer a llawer i’w gweld ym Mae Porth Mawr yn gwneud sŵn cwarc-cwarc-cwarc.
Ac fel mae Claire Morris, perchennog Dragon Reptiles and Aquatics yn esbonio, roedd hi wrth ei bodd bod Toad yn gallu mynd ar wyliau i’w theatr leol.
“Dw i’n meddwl ei fod e’n syniad gwych. Bydd plant yn gallu uniaethu gyda’r prif gymeriad a gweld Toad yn ei fifariwm. Mae nhw wir yn amffibiaid diddorol a chyfeillgar ac mae Toad yn methu aros i deithio o Ddoc Penfro i’r Torch am ei arhosiad byr,” esboniodd Claire.
Bydd Wind in the Willows ar lwyfan Theatr Torch ar ddydd Llun 22 Gorffennaf, dydd Mawrth 23 Gorffennaf a dydd Mercher 24 Gorffennaf am 6.30pm. Pris tocyn: £10 / £8 consesiynau. Bydd y Theatr Ieuenctid yn cael cwmni Côr Cymunedol Lleisiau’r Torch. I archebu eich tocynnau neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.

