‘Furious’ One-Woman Show

Iphigenia yn Sblot, the Welsh-language adaptation of Iphigenia in Splott, comes to the Torch Theatre, Milford Haven, on 18 September, having recently been premiered at the National Eisteddfod in Pontypridd.
Seren Hamilton will take the title role in her first major performance while completing her final year in acting at Rose Bruford College of Performing Arts. Alice Eklund will direct this new production nearly a decade after its international success.
The one-woman play is described as “a furious analysis of our society”. Since its premiere in 2015, it has won the James Tait Black Prize for Drama 2016 and the Best New Play Award at the UK Theatre Awards 2015, with the original production touring to the Edinburgh Festival Fringe, across Wales and the UK, and as far as New York and Berlin. In 2022 the play was re-staged by the Lyric Hammersmith. It has been translated into and performed in several languages.
“I’m so excited to direct this production. Iphigenia in Splott played a huge part in my introduction to new writing and I can’t wait to see Effie’s story come to life in Welsh. Doing this play in this way feels so timely, so relevant and so needed right now,” said Eklund.
This production contains strong language, sexual references, sensitive themes including grief and neonatal loss, and scenes that some audience members may find upsetting.
Iphigenia yn Sblot will be at the Torch Theatre on 18 September at 7.30pm. Tickets: adult £16. Concessions: £14. Under-26: £10. Box office: 01646 695267 or visit torchtheatre.co.uk.

Sioe Un Fenyw Enwog yn Ymweld â’r Torch
Mae Theatr Torch yn edrych ymlaen at groesawu Iphigenia yn Sblot i’w llwyfan. A hithau newydd gael ei pherfformio am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yr wythnos hon, bydd yr addasiad Cymraeg yn dod yma i Sir Benfro nos Fercher 18 Medi.
Seren Hamilton fydd yn cymryd y brif ran yn ei pherfformiad mawr cyntaf wrth gwblhau ei blwyddyn olaf mewn Actio yng Ngholeg Celfyddydau Perfformio Rose Bruford. Alice Eklund fydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad newydd hwn bron i ddegawd wedi iddo ddod yn rhyngwladol boblogaidd.
Mae’r ddrama un fenyw Iphigenia yn Sblot yn ddadansoddiad ffyrnig o’n cymdeithas a’r bywydau chwerw sydd yn bodoli. Ers ei dangosiad cyntaf yn Theatr y Sherman yn 2015, mae wedi ennill y James Tait Black Prize ar gyfer Drama 2016 a’r Best New Play Award yng Ngwobrau Theatr y DU 2015, gyda’r cynhyrchiad gwreiddiol yn teithio i Ŵyl Ymylol Caeredin, ar draws Cymru a’r DU a chyn belled ag Efrog Newydd a Berlin. Yn 2022, cafodd y ddrama ei hail-lwyfannu gan Lyric Hammersmith i ganmoliaeth fawr. Mae wedi’i chyfieithu a’i pherfformio mewn sawl iaith hefyd.
“Rydw i mor gyffrous i gyfarwyddo’r cynhyrchiad hwn. Chwaraeodd Iphigenia yn Sblot ran enfawr yn fy nghyflwyniad i ysgrifennu newydd ac ni allaf aros i weld stori Effie yn dod yn fyw yn y Gymraeg. Mae gwneud y ddrama hon yn y ffordd hon yn teimlo mor amserol, mor berthnasol ac mor angenrheidiol ar hyn o bryd,” meddai’r Cyfarwyddwr, Alice Eklund.
Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif gan gynnwys galar a cholled newydd-anedig yn ogystal â golygfeydd y gall rhai aelodau o’r gynulleidfa deimlo’n bryderus.
Bydd Iphigenia yn Sblot yn cael ei pherfformio yn Theatr Torch ar nos Fercher 18 Medi am 7.30pm. Pris tocyn: Oedolyn: £16. Consesiwn: £14. O dan 26: £10. I archebu eich tocynnau neu am fwy o wybodaeth cysylltwch gydar Swyddfa Doynnau ar 01646 695267 neu ewch i visit torchtheatre.co.uk.

