The Torch Is Listening

ValeriaLo/Pixabay
Over the past nine months, the Torch Theatre in Milford Haven has been one of five theatres across Wales that has benefited from the Craidd programme. This national scheme looks at specific needs and requirements relating to a theatre’s accessibility (both on stage and off stage). As part of the development of this work the Torch Theatre would like to hear your views about what it does and how it can improve.
A coffee morning is being held at the Torch with Angharad Tudor-Price, the theatre’s agent for change, and Tim Howe, senior manager for youth and community, so that people can express their views.
“We want people from all walks of life to come along and tell us what they think of the Torch – what we do well and where we can make changes. The coffee will be free and the drop-in session very informal,” said Tim.
“We already offer subtitled screenings, BSL performances, relaxed performances and our dementia friendly screenings ‘Movies and Memories’. But we know there is much more we can do to improve how accessible we are, and we would love to know how people think we can achieve this. From simple things like signage and large-print brochures to more long-term ideas like changing the layout of the whole building or the sorts of things we programme. All ideas are welcomed and encouraged.”
The coffee morning will be held on Wednesday 12 February between 10am and 2pm. All are welcome. Further information: torchtheatre.co.uk or 01646 695267.
![]()
Dros y naw mis diwethaf, mae Theatr Torch yn Aberdaugleddau wedi bod yn un o bum theatr ar draws Cymru sydd wedi elwa o’r rhaglen Craidd. Mae’r cynllun cenedlaethol hwn yn edrych ar anghenion a gofynion penodol sy’n ymwneud â hygyrchedd theatr (ar y llwyfan ac oddi arni). Fel rhan o ddatblygiad y gwaith hwn hoffai Theatr Torch glywed eich barn am yr hyn y maent yn ei wneud a sut y gallant wella.
Ym mis Chwefror eleni, gofynnir i gymuned Aberdaugleddau a thu hwnt fynychu Bore Coffi yn Theatr Torch yng nghwmni Angharad Tudor-Price, Asiant am Newid y Torch a Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned, i fynegi eu barn.
“Rydym am i bobl o bob cefndir alw heibio a dweud wrthym beth yw eu barn am y Torch – beth rydym yn ei wneud yn dda a lle gallwn wneud newidiadau. Bydd y coffi am ddim a’r sesiwn galw heibio yn anffurfiol iawn,” meddai Tim
Ychwanegodd: “Yma yn y Torch, rydym eisoes yn cynnig dangosiadau gydag is-deitlau, perfformiadau BSL, perfformiadau hamddenol a’n dangosiadau cyfeillgar i ddementia ‘Ffilmiau ac Atgofion’. Ond rydym yn gwybod bod llawer mwy y gallwn ei wneud i wella pa mor hygyrch ydym, a byddem wrth ein bodd yn gwybod sut mae pobl yn meddwl y gallwn gyflawni hyn. O bethau syml fel arwyddion a phamffledi print bras i syniadau mwy hirdymor fel newid cynllun yr adeilad cyfan neu’r mathau o bethau rydyn ni’n eu rhaglennu. Rydym yn croesawU ac yn annog pob syniad.”
Cynhelir Bore Coffi Craidd yn y Torch ar ddydd Mercher 12 Chwefror rhwng 10am a 2pm. Mae croeso i bawb. I gael rhagor o wybodaeth ewch i torchtheatre.co.uk neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267.

