Celebration of the Sea

Dathliad o’r Môr yn y Torch
Plymiwch i ddiwrnod a noson o ddigwyddiadau a dathliadau, ac amlygu’r cysylltiad sydd gan bobl â’r môr yng Ngŵyl y Môr gyntaf un yn y DU sy’n cynnwys arddangosfa gelf a fforwm yn Theatr Torch, Aberdaugleddau. Wedi’i drefnu gan Fforwm Arfordirol Sir Benfro a Milford Youth Matters bydd Y Môr a Ni / The Sea and Us yn arddangos yr amgylchedd morol o amgylch Sir Benfro gydag amrywiaeth o weithgareddau.
Bydd Gŵyl y Môr yn Aberdaugleddau yn dechrau ar ddydd Sadwrn 8 Mawrth ar Mackerel Quay, Milford Waterfront cyn heidio am Theatr Torch ar ddydd Sul 9 Mawrth am 11am a diweddu gyda Fforwm Arfordirol Byw Sir Benfro blynyddol am 7pm.
Bydd Theatr Torch yn fwrlwm o weithgarwch trwy gydol y dydd gyda chyfle i gwrdd ag amrywiaeth o werthwyr o Ganolfan Darwin, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth y Môr, y Cyngor Astudiaethau Maes a Phrosiect Cleddau ar eu stondinau yn ardaloedd cymunedol y theatr. Dewch i ddarganfod gwybodaeth am blastigau morol gydag Ymddiriedolaeth y Môr cyn mynd yn grefftus a chreu eich trysor plastig morol eich hun yn y prif awditoriwm. Ymunwch â’r artist Fran Evans yn ystod ei sesiynau celf a chrefft yn y theatr stiwdio cyn mynd ar daith i fyd y môr o gwmpas Sir Benfro i ddarganfod sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio – a gynhelir yn y prif awditoriwm.
Trochwch eich dwylo yng nghwmni Câr y Môr a helpwch i wneud bio-wrtaith o wymon. Plymiwch i ryfeddodau’r dyfnder gyda ffotograffydd morol, deifiwr ac awdur gwobrwyedig Lou Luddington a fydd hefyd yn arddangos ei blatfform adrodd straeon cefnfor newydd cyffrous. Bydd Mark Burton yn trafod llu o bynciau o falod i adar drycin a llamhidyddion i forloi wrth iddo ddwyn i gof ei amser ar Ynys Sgomer cyn i chi fynd I Fforwm Arfordirol Sir Benfro 2025 yn y prif awditoriwm.
Mae Fforwm Arfordirol Sir Benfro yn cynnal ei gystadleuaeth ffotograffau ‘Arfordir Byw’ flynyddol, lle gwahoddir ffotograffwyr o bob oed a lefel sgil i dynnu ffotograff o harddwch ac amrywiaeth arfordir Sir Benfro. Mae gan y gystadleuaeth bedwar categori: ‘Bywyd Gwyllt – Plant’, ‘Bywyd Arfordirol – Plant’, ‘Bywyd Gwyllt – Oedolion’ a ‘Bywyd Arfordirol -Oedolion’. Bydd cynigion yr enillwyr a’r rhai a ddaeth yn ail orau, yn cael eu cyhoeddi ddydd Sul 9 Mawrth, ac yn cael eu harddangos yn Oriel Joanna Field yn Theatr Torch, ochr yn ochr â gwaith Milford Youth Matters.
Ewch am dro ar yr ochr wyllt drwy’r arddangosfa gelf yn Theatr Torch drwy gydol mis Mawrth fel rhan o Ŵyl y Môr – digwyddiad cyntaf Strategaeth Llythrennedd Cymru Ocean Y Môr a Ni a lansiwyd yn ddiweddar. Cynlluniwyd Y Môr a Ni gan Gynghrair Llythrennedd Cefnfor Cymru a Phartneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru ehangach.
Cynhelir Gŵyl y Môr, Aberdaugleddau ar ddydd Sadwrn 8 Mawrth ar Mackerel Quay, Milford Waterfront ac yn Theatr Torch ar ddydd Sul 9 Mawrth am 11am gyda Fforwm Arfordirol Byw Sir Benfro blynyddol am 7pm.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267.

A day and night of events and celebrations will highlight the connection people have with the sea at a Festival of the Sea including an art exhibition and forum at the Torch Theatre, Milford Haven. Organised by the Pembrokeshire Coastal Forum and Milford Youth Matters, Y Môr a Ni / The Sea and Us will showcase the marine environment around Pembrokeshire with an array of activities.
The festival will start on Saturday 8 March on Mackerel Quay, Milford Waterfront before heading to the Torch Theatre on Sunday 9 March at 11am culminating with the annual Pembrokeshire Living Coast Forum at 7pm.
The Torch Theatre will host a range of vendors from the Darwin Centre, National Trust, Sea Trust, Field Studies Council and the Cleddau Project.
Uncover the issue of marine plastics with the Sea Trust before getting crafty and creating your own marine plastic treasure in the main auditorium. Join the artist Fran Evans during her morning session of art and craft in the studio theatre before going on a journey into the marine world around Pembrokeshire and find out how Natural Resources Wales work – held in the main auditorium.
Get your hands dirty with Câr y Môr and help make some bio-fertiliser from seaweed and dive into the wonders of the deep with an award-winning marine photographer, diver and author in the company of Lou Luddington who will also showcase her exciting new ocean storytelling platform. Mark Burton will discuss anything and everything from puffins to shearwaters and porpoises to seals as he recalls his time on Skomer Island before you attend the Pembrokeshire Coastal Forum 2025 in the main auditorium.
Pembrokeshire Coastal Forum is running its annual Living Coast photo competition, in which photographers of all ages and skill levels are invited to capture the beauty and diversity of Pembrokeshire’s coast. The competition has four categories: Children’s Wildlife, Children’s Coastal Life, Adult’s Wildlife and Adult’s Coastal Life. The entries of the winners and runners-up, announced on Sunday 9 March, will be mounted and displayed at the Torch Theatre’s Joanna Field Gallery, alongside the work of Milford Youth Matters.
The art exhibition will be at the Torch throughout March as part of Festival of the Sea – the first event of the recently launched Y Môr a Ni Ocean Literacy Strategy for Wales. Y Môr a Ni is designed by the Welsh Ocean Literacy Coalition and the wider Wales Coasts and Seas Partnership.
Festival of the Sea will be held in Milford Haven on Saturday 8 March on Mackerel Quay, Milford Waterfront, and at the Torch Theatre on Sunday 9 March at 11am with the annual Pembrokeshire Living Coast Forum at 7pm.
Further information: www.torchtheatre.co.uk or (01646) 695267.

