Museum Shop Sunday at Oriel y Parc

Oriel y Parc yn dathlu Dydd Sul y Siopa mewn Amgueddfa gyda chasgliad arbennig Garry Fabian Miller
Bydd Canolfan Ddarganfod Parc Cenedlaethol Oriel y Parc yn Nhyddewi yn ymuno ag atyniadau diwylliannol ledled y byd i ddathlu Dydd Sul y Siopa mewn Amgueddfa ar 30 Tachwedd, gan wahodd ymwelwyr i ddod o hyd i anrhegion ystyrlon gan gynhyrchwyr lleol sy’n cefnogi’r celfyddydau.
Mae Dydd Sul y Siopa mewn Amgueddfa wedi tyfu’n ddigwyddiad gwirioneddol ryngwladol, gyda mwy na 2,200 o amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth mewn 25 o wledydd yn annog pobl i siopa’n bwrpasol. Mae’n cynnig dewis ystyrlon arall yn lle rhuthr masnachol Dydd Gwener y Gwario, gan hyrwyddo creadigrwydd, diwylliant a chymuned.
Eleni, mae Oriel y Parc yn hoelio sylw ar ei chasgliad Garry Fabian Miller, sydd wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa fawr yr artist llwyddiannus, Môrwelion / The Sea Horizon, a agorodd mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru. Mae’r arddangosfa yn olrhain pedwar degawd o ddiddordeb yr artist yn y man lle mae’r tir, y môr a’r dychymyg yn cyfarfod – o’i ffotograffau cynnar i’w waith ystafell dywyll diweddarach heb gamera.
Gall ymwelwyr bori drwy amrywiaeth o brintiau, llyfrau ac anrhegion Garry Fabian Miller sy’n adlewyrchu’r themâu a gaiff eu harchwilio yn yr arddangosfa, sef golau, tirwedd a’r gorwel. Mae pob pryniant yn cefnogi’r artist a gwaith y Parc Cenedlaethol.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn www.orielyparc.co.uk.

Oriel y Parc National Park Discovery Centre in St Davids will join cultural attractions around the world in celebrating Museum Shop Sunday on 30 November, inviting visitors to discover meaningful, locally rooted gifts that support the arts.
Museum Shop Sunday has grown into a truly international event, with more than 2,200 museums, galleries and heritage sites in 25 countries encouraging people to shop with purpose. It offers a thoughtful alternative to the commercial rush of Black Friday, championing creativity, culture and community.
This year, Oriel y Parc is placing the spotlight on its Garry Fabian Miller collection, inspired by the acclaimed artist’s major exhibition Môrwelion / The Sea Horizon, which opened in partnership with Amgueddfa Cymru – Museum Wales and runs until June 2026. The exhibition traces four decades of the artist’s fascination with the meeting point of land, sea and imagination, from his early Sea Horizon photographs to his later camera-less darkroom works.
Visitors can browse a curated range of Garry Fabian Miller prints, books and gifts that reflect the themes of light, landscape and horizon explored in the exhibition. Every purchase supports both the artist and the work of the National Park.
More details: www.orielyparc.co.uk.

