Letting Their Hair Down . . .

CYHOEDDI’R CAST AR GYFER ANTUR LLAWN HELYNT YN Y TORCH!
Mae’r set yn cael ei hadeiladu, mae’r gerddoriaeth yn cael ei chyfansoddi, mae’r sgript yn barod. Ond pwy fydd yn dod â’r sgript yn fyw yng ngweithiau Rapunzel, Mam Gothel, y Fonesig – Belinda Beehive, y Tywysog Nathaniel o Neyland, Zephyr y Pâl a Periwinkle ym mhantomeim Nadoligaidd Theatr Torch, Rapunzel y mis Rhagfyr hwn?
Bydd y cymeriadau hyn yn cludo cynulleidfaoedd ar daith gyffrous ar hyd arfordir Sir Benfro wrth i’r stori droellog, gymhleth hon am y ferch â’r gwallt hudolus, wedi’i chloi mewn goleudy yn aros i gael ei hachub, gael ei chyflwyno i chi gan gast o actorion proffesiynol lleol gwych.
Bydd yr actor rhyngwladol Eifion ap Cadno yn ymddangos yn ei bantomeim cyntaf erioed fel Periwinkle, ysbryd môr hudolus ar ochr y bobl da.
Bydd yr actor o Hwlffordd a’r foneddiges, Lloyd Grayshon, yn chwarae rhan Belinda Beehive, triniwr gwallt hudolus a ffrind i’r sêr.
Dechreuodd Holly Mayhew, merch o Sir Benfro, sydd newydd raddio o gwrs actio proffesiynol BA Drama Studio London, ei thaith yma yn Theatr Ieuenctid y Torch cyn hyfforddi gyda ‘Stiwdio Actorion Ifanc’ Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae Holly yn chwarae rhan Rapunzel.
Bydd actores leol arall o Hwlffordd yn ymuno â hwyl yr ŵyl, Jess Dyas. Mae hi’n chwarae rhan y Fam Gothel ddrwg. Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd yn perfformio yma yn y Torch. Roeddwn i’n aelod o Gymdeithas Drama Amatur Hwlffordd pan oeddwn i’n iau, felly Theatr Torch oedd y theatr gyntaf i mi berfformio ynddi a’r rheswm pam roeddwn i am fod yn actores.”
Mae Freya Dare yn ymddangos yn rheolaidd mewn pantomeimiau yn y Torch hefyd. Actores leol, coreograffydd, artist dawns a drama gymunedol sydd hyd yn oed yn rhedeg ei chwmni theatr plant ei hun, Forest Friends Theatre. Yn 2024, chwaraeodd Freya y ferch ddrygionus Agz yn Jack and the Beanstalk ac roedd hi’n ddirprwy ar gyfer Beauty and the Beast. Eleni, mae hi’n cael chwarae un o’r dynion da, Zephyr y Pâl.
Bydd Rapunzel bydd yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr i ddydd Sul 28 Rhagfyr. Pris: £24.50 | £20.00 Gostyngiadau | £78.00 Teulu. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol – Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad Dehongli Iaith Arwyddion Prydain (Liz May) – Dydd Mawrth 16 Rhagfyr 6pm.
Ewch i’r wefan am ragor o fanylion www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267.

CAST ANNOUNCMENT FOR A HAIR-RAISING ADVENTURE AT THE TORCH!
The set is being built, the music is being composed, the script is ready. But who will bring the script to life in the roles of Rapunzel, Mother Gothel, the Dame – Belinda Beehive, Prince Nathaniel of Neyland, Zephyr the Puffin and Periwinkle at Milford Haven’s Torch Theatre’s festive pantomime Rapunzel this December?
These characters will take audiences on an exciting journey along the coast of Pembrokeshire as this twisty, tangled tale about the girl with the magical hair, locked away in a lighthouse waiting to be rescued, is brought to you by a great line-up of brilliant local, professional actors.
UK and international actor Eifion ap Cadno will appear in his first pantomime, as Periwinkle, a magical sea sprite on the side of the goodies.
Haverfordwest actor and returning dame Lloyd Grayshon will play Belinda Beehive, a glamorous hairdresser and friend to the stars.
Pembrokeshire girl Holly Mayhew, who has recently graduated from Drama Studio London’s BA professional acting course, started her journey at the Torch Youth Theatre before training with Royal Welsh College of Music and Drama’s Young Actors Studio. Holly plays Rapunzel.
Another local actor from Haverfordwest, Jess Dyas, plays the evil Mother Gothel. She said: “I’m delighted to be performing here at the Torch. I was a member of Haverfordwest Amateur Dramatics Society when I was younger, so the Torch Theatre was the first theatre I performed in and the reason why I wanted to become an actor.”
Freya Dare is another panto regular. A local actor, choreographer, community dance and drama artist, she runs her own children’s theatre company, Forest Friends Theatre. In 2024, Freya played naughty girl Agz in Jack and the Beanstalk. This year, she gets to play one of the good guys, Zephyr the Puffin.
Rapunzel will feature on the Torch Theatre stage from Saturday 6 December to Sunday 28 December. Price: £24.50 | £20.00 Cons | £78.00 Family. Relaxed Environment Performance – Saturday 13 December at 2pm. BSL Interpreted Performance (Liz May) – Tuesday 16 December 6pm.
Further details: www.torchtheatre.co.uk or phone 01646 695267.

