Freya… and Zephyr the Dancing Puffin

Rehearsals for this year’s panto, Rapunzel, are well under way at the Torch Theatre, Milford Haven. And actor and choreographer Freya Dare feels at home on her local stage playing the role of Zephyr the Puffin.
Freya is no stranger to acting and dancing and runs her own theatre company with her mum, Lynda, who writes original plays inspired by children’s classic literature with an environmental message woven into them.
Freya says: “I started dancing when I was three years old. I was always dancing and unable to sit still in the house and very frequently asking my brother can you do this move that I’d made up. My amazing mam took me to my first dance class, and I just loved the feeling of freedom and joy that dance gives you.”
“I believe dance is like an extension on language where you can communicate how you really feel on a deeper level where words sometimes fail. Dancing can express how we feel and help us to let go of emotions. I love the way dance brings people together. Most of my happiest memories are with groups of people dancing together.”
Freya will not only be playing the part of Zephyr, she will also be choreographing the pantomime.
Rapunzel will feature on the Torch Theatre stage from Saturday 6 December to Sunday 28 December. Tickets £24.50, £20 concessions, £78 family. Relaxed Environment Performance – Saturday 13 December at 2pm. BSL-interpreted performance – Tuesday 16 December 6pm.

clarencealford/Pixabay
Codi o’ch Sedd a Wiglo yng Nghwmni Zephyr y Pâl!
Mae ymarferion ar gyfer, Rapunzel, y panto gwych Nadoligaidd eleni, wedi hen ddechrau yn Theatr Torch, Aberdaugleddau ac mae ein hactorion proffesiynol, lleol yn rhagweld amser cyffrous. Mae’r actores a’r coreograffydd, Freya Dare, yn un ohonyn nhw ac ar ôl ymddangos ar lwyfan y Torch mewn cynyrchiadau blaenorol, mae hi’n teimlo’n gartrefol iawn ar ei llwyfan lleol yn chwarae rhan Zephyr y Pâl.
Nid yw Freya yn ddieithr i actio a dawnsio ac mae’n rhedeg ei chwmni theatr ei hun gyda’i mam, Lynda, sy’n ysgrifennu dramâu gwreiddiol wedi’u hysbrydoli gan lenyddiaeth glasurol plant gyda neges amgylcheddol wedi’i gwehyddu ynddyn nhw.
“Dechreuais ddawnsio pan oeddwn yn dair oed. Roeddwn i bob amser yn dawnsio ac yn methu eistedd yn llonydd yn y tŷ ac yn aml iawn yn gofyn i fy mrawd a allai fe wneud y symudiad hwn roeddwn i wedi’i ddyfeisio. Aeth fy mam anhygoel â mi i’m dosbarth dawns cyntaf, ac roeddwn i wrth fy modd â’r teimlad o ryddid a llawenydd y mae dawns yn ei roi i chi.
“Rwy’n credu bod dawns fel estyniad ar iaith lle gallwch chi gyfleu sut rydych chi’n teimlo mewn gwirionedd ar lefel ddyfnach lle mae geiriau weithiau’n methu. Gall dawnsio fynegi sut rydym yn teimlo a’n helpu i ollwng gafael ar emosiynau. Rwy’n caru’r ffordd y mae dawns yn dod â phobl at ei gilydd. Mae’r rhan fwyaf o fy atgofion hapusaf gyda grwpiau o bobl yn dawnsio gyda’i gilydd ac yn bendant, rwy’n credu y dylai pawb roi cynnig ar ddawns. Mae dawns yn rhywbeth naturiol sydd gennym ni i gyd ynom ni! Rwy’n dysgu dosbarthiadau dawns i bob oed a gallu o blant ifanc iawn i bobl yn eu 80au ac rydych chi’n dal i weld yr un llawenydd am symud i gerddoriaeth.”
Nid yn unig y bydd Freya yn chwarae rhan Zephyr – rôl gorfforol iawn gyda llawer o ddawnsio a siglo, bydd hi hefyd yn gyfrifol am goreograffu y pantomeim cyfan.
Bydd Rapunzel yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Sadwrn 06 Rhagfyr i ddydd Sul 28 Rhagfyr. Pris: £24.50, £20 gostyngiadau, £78 Perfformiad Teuluol. Amgylchedd Hamddenol – Dydd Sadwrn 13 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad Dehongli Iaith Arwyddion Prydain – Dydd Mawrth 16 Rhagfyr 6pm.

