Wildfire Warning
Tan gwyllt wedi’i osgoi o drwch blewyn ger Bryniau Preseli
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn atgoffa pobl o’r risg ddifrifol o danau gwyllt yn dilyn digwyddiad ger Bryniau Preseli yn ystod y cyfnod presennol o dywydd poeth a sych.
Brynhawn Mawrth, cafodd Parcmyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol wybod am fwg yn codi o’r bryniau ger Tŷ Canol, coetir hynafol a Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
Ar ôl cael disgrifiad clir o’r lleoliad, teithiodd y Parcmyn i Garnedd Meibion Owen, lle gwelsant fod un o’r brigiadau creigiog yn llosgi. Gan fod y tân wedi ymledu’n ddwfn i’r mawn, penderfynwyd cysylltu â’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae’r tân wedi’i ddiffodd yn llwyr erbyn hyn.
Credir iddo ddeillio o dân yn yr awyr agored yn yr ardal. Roedd criwiau tân wedi delio â’r tân yn flaenorol ac wedi’i ddiffodd, ond roedd wedi ailddechrau oherwydd y tir eithriadol o sych a’r tywydd poeth parhaus.
Er bod y digwyddiad wedi dod o dan reolaeth, gallai’r tân fod wedi lledaenu’n hawdd ac achosi difrod sylweddol i’r dirwedd gyfagos, i fywyd gwyllt ac i gynefinoedd sy’n bwysig yn rhyngwladol.
Gyda rhagolygon pellach o dywydd poeth a sych, a thanau gwyllt yn digwydd mewn rhannau eraill o’r wlad, mae’r digwyddiad yn ffordd bwysig o’n hatgoffa bod cynnau tanau yng nghefn gwlad yn peri risg ddifrifol.
Anogir pobl i beidio â chynnau tân yn yr awyr agored, barbeciw, nac unrhyw fflamau agored eraill yn y Parc Cenedlaethol. Ni ddylid defnyddio tân gwyllt na llusernau awyr chwaith, gan y gall hyd yn oed gwreichionen fach danio llystyfiant sych neu fawn a datblygu’n danau gwyllt sy’n symud yn gyflym.
Gall ymwelwyr helpu i ddiogelu’r Parc Cenedlaethol drwy fynd â’r holl sbwriel adref, cael gwared ar sigarennau’n ddiogel a rhoi gwybod am unrhyw arwyddion o dân ar unwaith drwy ffonio 999.
Hoffai Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddiolch i Orsaf Dân Abergwaun a’i chriwiau am eu cymorth cyflym i reoli’r digwyddiad.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gofyn i bawb sy’n ymweld â’r Parc Cenedlaethol yn ystod cyfnodau o dywydd sych wneud y canlynol:
Osgoi cynnau tân yn yr awyr agored, barbeciw neu unrhyw fflamau agored eraill.
Peidio byth â rhyddhau llusernau awyr na defnyddio tân gwyllt ger cefn gwlad agored.
Cael gwared ar sigarets neu fatsis yn ddiogel.
Mynd â’r holl sbwriel adref, yn enwedig gwydr, a all gynyddu’r risg o dân.
Ffonio 999 ar unwaith os ydynt yn gweld tân neu fwg yng nghefn gwlad.

Pembrokeshire Coast National Park Authority is reminding people of the serious risk of wildfires following an incident near the Preseli Hills during the current spell of hot, dry weather.
On Tuesday afternoon, National Park Authority Rangers were alerted to smoke rising from the hills near Tŷ Canol, an ancient woodland and National Nature Reserve.
Following a clear description of the location, Rangers made their way to Carnedd Meibion Owen, where they discovered that one of the rocky outcrops was burning. As the fire had spread deep into the peat, the decision was made to contact the Fire and Rescue Service. The fire has now been fully extinguished.
It is believed to have originated from a campfire in the area. Fire crews had previously attended and extinguished the fire, but it had reignited due to the exceptionally dry ground and continued hot weather.
Although the incident was brought under control, the fire could easily have spread and caused significant damage to the surrounding landscape, wildlife and internationally important habitats.
With further hot and dry weather forecast, and wildfires occurring in other parts of the country, the incident serves as an important reminder that lighting fires in the countryside poses a severe risk.
People are urged not to light campfires, barbecues or any other open flames within the National Park. Fireworks and sky lanterns should also not be used, as even a small spark can ignite dry vegetation or peat and develop into a fast-moving wildfire.
Visitors can help protect the National Park by taking all litter home, disposing of cigarettes safely and reporting any signs of fire immediately by calling 999.
Pembrokeshire Coast National Park Authority would like to thank Fishguard Fire Station and its crews for their swift assistance in bringing the incident under control.
Pembrokeshire Coast National Park Authority asks everyone visiting the National Park during periods of dry weather to:
Avoid lighting campfires, barbecues or any other open flames.
Never release sky lanterns or use fireworks near open countryside.
Dispose of cigarettes and matches safely.
Take all litter home, particularly glass, which can increase the risk of fire.
Call 999 immediately if fire or smoke is seen in the countryside.

