Taking a Lead on Animal Safety
The following article is from Pembrokshire Coast National Park. Please scroll down for the English version

Annog perchnogion cŵn i gadw eu cŵn ar dennyn er mwyn cadw anifeiliaid yn ddiogel yng nghefn gwlad ac ar yr arfordir
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn tynnu sylw at y camau syml gall perchnogion cŵn eu cymryd i gadw eu hanifeiliaid anwes yn ddiogel ac i osgoi digwyddiadau diangen gyda da byw ac adar sy’n nythu ar y ddaear.
Wrth gerdded ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn ogystal â llwybrau troed a llwybrau ceffylau eraill, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y canlynol:
- Cadw cŵn ar dennyn byr ac o dan reolaeth agos bob amser pan fydd defaid a da byw eraill gerllaw.
- Glanhau ar ôl eich ci; rhowch y baw mewn bag a’i roi yn y bin os gallwch chi, neu fynd ag ef gyda chi – peidiwch â gadael bagiau baw yng nghefn gwlad.
Dywedodd Anthony Richards, Arweinydd Tîm Mynediad Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Y ffordd hawsaf o sicrhau nad yw eich ci yn achosi unrhyw ofid yw ei gadw ar dennyn byr. Mae defaid cyfoen, ŵyn ifanc ac adar sy’n nythu ar y ddaear mewn perygl arbennig ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Mae ymosodiadau gan gŵn hefyd yn achosi straen diangen i ffermwyr, ac yn colli incwm iddyn nhw.
“Nid yn unig bydd rhoi tennyn ar eich ci yn ei gwneud yn haws i’w gadw dan reolaeth a’i gadw i ffwrdd o anifeiliaid sy’n agored i niwed, bydd hefyd yn cadw eich ci i ffwrdd o beryglon posib eraill, fel ochrau clogwyni. Mae Gwylwyr y Glannau ac RNLI yn cael eu galw bob blwyddyn i achub cŵn sydd wedi disgyn dros ochrau clogwyni.”
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys Cod Ymddygiad Cerdded eich Ci Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/cerdded-eich-ci.
Pennawd: Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn apelio ar gerddwyr cŵn i gadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn byr ac o dan reolaeth agos wrth gerdded ger da byw neu wrth gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Penfro.

Image from Katrin B at Pixabay
Pembrokeshire Coast National Park Authority is highlighting the simple steps dog owners can take to keep their pets safe and avoid unnecessary incidents with livestock and ground-nesting birds.
While walking the Pembrokeshire Coast National Trail and other footpaths and bridleways:
- Always keep dogs on a short lead and under close control when sheep or any other livestock are present, or when you are near cliff edges.
- Clean up after your dog; bag it and bin it wherever you can or take it away – please do not leave poo bags in the countryside.
National Park Authority access team leader Anthony Richards said: “The easiest way to ensure your dog doesn’t cause any distress is to keep it on a short lead. Pregnant ewes, young lambs and ground-nesting birds are particularly at risk at this time of year. Attacks by dogs also cause unnecessary stress and income loss to farmers.
“Not only will keeping your dog on a lead make it easier to keep your dog under control and away from vulnerable animals, but it will also keep your dog away from other possible risks such as cliff edges, with the Coastguard and RNLI tasked with rescuing dogs following cliff falls every year.”
For more information, including the National Park Authority’s Dog Walking Code of Conduct, visit www.pembrokeshirecoast.wales/dogs.

