Stories of the Stars

Cipio straeon y sêr yn Theatr Torch
Mae’r storïwyr enwog Daniel Morden a Hugh Lupton wedi creu profiad theatr agos atoch newydd sy’n edrych ar fythau clasurol wedi’u hysbrydoli gan y sêr, a fydd yn teithio ledled Cymru yng Ngwanwyn 2026 ac yn ymweld â Theatr Torch, Aberdaugleddau, yn ystod mis Mawrth.
Stars And Their Consolations yn rhannu mythau Groegaidd adnabyddus am y sêr wedi’u goleuo gan drac sain electro-acwstig a grëwyd gan Sarah Lianne Lewis, y gyfansoddwraig arobryn o Gymru.
“Mae Stars And Their Consolations yn ffordd o adfer awyr y nos. Ers i ddynoliaeth fodoli, rydym wedi defnyddio straeon i ddeall ein profiadau. Pan fyddwn yn gwrando ar y mythau hyn rydym yn cysylltu â’n hynafiaid. Mae fel pe bai llaw wedi estyn allan o’r gorffennol a chymryd ein llaw ein hunain, ac rydym yn teimlo’n llai unig,” meddai Daniel Morden.
“Mae straeon a rennir gyda’n gilydd yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd. Rydym oll yn byw o dan yr un awyr, er y gall edrych yn wahanol iawn yn dibynnu ar ble rydych chi’n sefyll. Mae straeon sy’n gysylltiedig â sêr yn ein helpu i gofio patrymau cytserau, a all ein helpu i ddod o hyd i’n ffordd, a nodi ein newidiadau tymhorol. Gallant hefyd anfon rhybuddion atom, fel y risgiau i’n hiechyd a’n hecoleg o lygredd golau. Trwy rannu straeon rydym yn cael ein hatgoffa o werth aruthrol awyr y nos a pham mae angen i ni sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol barhau i fwynhau ei harddwch a’i phŵer!” meddai cynhyrchydd Naomi Wilds.
Mae modd gweld Stars And Their Consolations ar lwyfan Theatr Torch ar nos Fawrth 24 Mawrth. Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan www.torchtheatre.co.uk neu ffonwich y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267.

Geralt/Pixabay
Storytellers Daniel Morden and Hugh Lupton have created a new theatre experience looking at classic myths inspired by the stars, which will tour across Wales in spring 2026 and visit the Torch Theatre, Milford Haven, during March.
Stars And Their Consolations will share well-known Greek myths of the stars illuminated by an electro-acoustic soundtrack created by Welsh composer Sarah Lianne Lewis.
“Stars And Their Consolations is a way of restoring the night sky. Ever since humanity has existed, we have used stories to understand our experiences. When we listen to these myths we are connecting with our ancestors. It is as if a hand has reached out from the past and taken our own, and we feel less alone,” says Daniel Morden.
“Stories shared together help to bring people together We all live under the same sky, though it can look very different depending on where you are standing. Star-related stories help us to remember constellation patterns, which can help us to find our way, and mark our seasonal changes. They can also send us warnings, like the risks to our health and ecology from light pollution. Through sharing stories we get reminded of the immense value of the night sky and why we need to ensure future generations can keep enjoying its beauty and power,” says producer Naomi Wilds.
Stars And Their Consolations can be seen at the Torch Theatre on Tuesday 24 March. For further information visit www.torchtheatre.co.uk or phone 01646 695267.

